"Clagwydd Bodermud"

 

Mae Elwyn ‘Dermud Isaf

Yn ffermwr cefnog iawn,

Mae’n gweithio ddigon diwyd

O fore hyd brynhawn.

 

Mae ganddo ieir a gwartheg,

A defaid ac wyn bach,

Ac yr oedd ganddo glagwydd

Yn nofio’r dwr yn iach.

 

Ond mentrodd yr hen glagwydd

I lawr i’r iard am dro,

Daeth Wil Ty Lon mewn modur,

A’i daro medda fo.

 

Bu farw yr hen glagwydd,

Roedd yno alar mawr,

A’r gwyddau yn anfodlon

Heb hwn i’w sathru’n awr.

 

Ond fe ddaeth Martha i’r adwy,

Roedd clagwydd ganddi hi,

A gwerthodd hwn i Elwyn

Reit rad mi greda i.

 

Mae Helen siwr o anfon

Y bil i Wil Ty Lon,

Neu roi ryw syniad iddo

Faint gostiodd ar y ffon.

 

Tybed wnaiff hwn sathru

Y gwyddau hyn yn syth?

Rhaid aros i gael gwybod

Nes codant hwy o’r nyth.

 

Mae rhyw hen air yn dwedyd

Mae son am hyn drwy’r sir

Mai fel bo dyn bo’i lwdn

Neu’i glagwydd hwyrach wir.

 

Os felly mae yn berig

Bydd Wil Ty Lon yn rhoi,

Ryw wydd bach at Nadolig

I Helen, El a Ioi.

                Anadnabyddus.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com