"Tynnu Llo"

Bu’r llencyn Eic yn tynnu llo

O fuwch yng Ngharreg Lefain

A rhaid i mi ei ganmol o

Fel ffarier o hyn allan.

 

Nid oedd y ffermwr Jack ar gael

Fel mae y pethau’n digwydd

Y wraig ei hun, a’r fuwch yn wael

Daeth Eic a bu bodlonrwydd.

 

Y fuwch oedd druan erbyn hyn

Yn tuchan dros y beudy

Ar llencyn Eic yn spio’n syn

A’i goesau bach yn crynu.

 

Pa beth a wnaf, medd gwraig y ty

Mae’r fuwch mewn cyflwr enbyd

Rhaid i mi gyrchu cortyn cry

A halio’n galed hefyd.

 

Ac meddai Eic, er mod i’n wan

Mi wnaf fy ngorau i chwi

Rhaid mynnu cael y llo i’r lan

Ei golli fuasai’n biti.

 

I gyrchu rhaff yr aeth y ddau

Roedd pethau’n gwella rwan

Ac Isaac hefyd yn cryfhau

Roedd coesau’r llo’n dod allan.

 

Fe rwymwyd rhaff am goesau’r llo

A dyma ddechrau tynnu

Ni fu ond eiliad nad oedd o

Yn glap ar lawr y beudy.

 

Wrth gloi y stori dwedaf hyn

Os byddwch mewn amgylchiad.

Ewch at rhen Eic o Ael y Bryn

Cynorthwy gewch mewn eiliad.

                                          R N.

~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com