"Potsiars Y Rhiw"

 

Mae llawer un yn torchio

Ar hyd a lled y fro.

Ond Eric o Tan Capel

Yw’r un sydd nawr ar dro.

 

Aeth ef i lawr un noson

I’r Llwynfor gyda’i frawd

Sef Gareth ei frawd fengaf

A drygau dan bob bawd.

 

Cadd ganiatad gan Harri

I fynd a’i dorch a Ffan

I dorchio tir y Keating

Sy’n agos i Dalfan.

 

Nid bodlon oedd yr hogia

Ar ddal rhyw un neu ddwy

Ant drosodd i dir Morris

Rhag ofn y cawsent fwy.

 

Ni welsant un wningen

Yn nhir y gwerthwr had

A dyma benderfynnu

Mynd adref nerth eu traed.

 

Ond dyma gofio’n sydyn

Am dir Bodwyddog Bach

A rhedodd Eric yno

A Gareth efo’r sach.

 

Ac wedi dal rhyw gwpwl

Daeth golau o ben garn

A meddwl wnaeth yr hogia

Mai cerbyd oedd o’r Sarn.

 

Pan oedd y cerbyd modur

Yn agos i Dalfan

Arafodd ac fe stopiodd

A dyma alw Ffan.

 

Fel roedd y bois ar gychwyn

Daeth llais ysgythrog dyn

“Fe fydd y plismon acw

Cyn gwelwch fore Llun.

 

Fe welwodd gwyneb Eric

A Gareth aeth yn goch

Gwell fuasai iddynt aros

Yn Llwynfor efo’r moch.

 

Y dyn oedd Griffith Evans

Neu dyna fel mae’r son

Gafaelodd yn eu hysgwydd

A dangos giat y lon.

 

Gwnaeth Eric lond ei drowsus

A rhaid oedd cael un glan

Ond nid oedd un yn barod

Heb eirio wrth y tan.

 

Bu’n poeni am rai oriau

Wrth feddwl am y glas

A Harri Jones ‘r hen father

Yn teimlo braidd yn gas.

 

Wel hogiau cymerwch gyngor

Os ych chi am hel pres

Wel peidiwch mynd i dorchio

Rhag ofn y cewch chi dres.

                      X Y Z.

~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com