|
|
"Nos
Sadwrn II" Wel
heno bydd hi allan Rhown
sbri reit dda ynte Bydd
Jack o Garreg Lefain Yn
chwil yn dod o’r dre. Awn
gyntaf i’r ‘Black lion’ Ac
yfwn am rhyw awr A
wedyn ar ein hunion I
westy Penlan Fawr. Ac
meddwn wrth y waiter “Mae’ch
cwrrw fel y dwr Me’n
rhaid mynd am y Mitre Neu’n
syth i westy’r Twr. Ta
waeth i’r Twr yr aethom Bydd
yno bobl glen A’r
Waafs yn gwenu arnom Rhai
ifanc a rhai hen. A’r
amser ddaeth i fyny Fe
darodd naw o’r gloch A’r
hogiau’n dechrau canu Ar
ol y cwrrw coch. Yn
awr bydd rhaid gofalu Am
ddal y bws mewn pryd Nid
hawdd fydd cofio hynny ‘Rol
bod yn yfed cyd. Rhaid
cofio mae dychymyg Yw’r
gan sydd gen i’n awr. Os
af i’r dre mae’n debyg Yr
af i Benlan Fawr. Ond
rhaid cofio wedyn Bod
diod heddiw’n ddrud Ac
arian yn y cwdyn Yn
mynd yn llai o hyd. R N. ~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |