"Nos Sadwrn"

Fe glywsoch son mae’n debig

Am helynt hogiau’r Rhiw

Yn mynd i dre nos sadwrn

Rhyw saith oedd yn y criw.

 

Roedd pawb yn llawn direidi

Yn mynd o ben y Rhiw

A Taid yn dreifio’r hogiau

Fel capten wrth y llyw.

 

Roedd pawb am fynd i’r pictures

Ond trodd y pethau’n waeth

Digwyddodd rhywbeth hynod

I Jack y gwerthwr llaeth.

 

Wrth fynd ymlaen am Woolworth

Yn ddistaw lech i lwyn

Aeth Jack i wrthdarawiad

A thrawodd ben ei drwyn.

 

Bu’n gwaelu am rai oriau

A hances boced gaed

John Morris roddodd honno

I drio stopio’r gwaed.

 

Roedd Wil Penenbo hefyd

Yn trio bob rhyw ger

A rhoddodd beth o’r wadin

Sef stwff y Teddy Bear.

 

Gofynnodd Jack i Tomi

Am dipyn bach o ddwr

Ac aed ag ef i molchi

I mewn i westy’r Twr.

 

John Morris o Dyrhedyn

A John y gwerthwr llaeth

A Wil o Dynymyndd

Doedd neb rhyw damaid gwaeth.

 

Roedd hefyd Wil Penenbo

A Tomi Tanygraig

Roedd Wil yn cadw’r wadin

I fynd yn ol i’r wraig.

 

Wel tendiwch yn y Blackout

Rwyn dwedyd er eich mwyn

Mae eistedd wrth y tan sydd well

At gadw pen ar drwyn.

~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com