"Marwnad Porth Neigwl 1936"

Trigolion bro Porth Neigwl

Gwrandewch yn ddwys fy nghan

Am roddi ffarwel bythol

I’r ffermydd mawr a man;

Fe reiliwyd y Trefollwyni,

Top Ffarm a Phunt y gwair,

Crefyddwyr blaena’r Eglwys,

Addolant y llo aur.

 

Mae eto Jereboam

Hyd heddiw yn ei nerth,

Un llo ar ben Porth Neigwl,

A’r llall ar Ben y Berth;

Ffarwel i fref y defaid,-

Waeth befo hwynt yn awr,

Fydd dim cyn hir i’w glywed

Ond swn y bomiau mawr.

 

Fe greodd Duw y ddaear

At gynnal bywyd dyn,

A’i pechod ddaeth a’r anfri

Ar gwmwd distaw Llyn?

Gwallogofrwydd o’r fath hyllaf

Fydd ‘rysgol hon i’r wlad,

A gwerthu rhyddid Cymru

Am arfau tywallt gwaed.

 

Fe glywir rhai yn siarad

Bydd gwaith i’r naill a’r llall,

Heb ‘rioed gael gweledigaeth

O weithio ar seiliau’r fall;

Ryw ysgol bur farbaraidd

Yw ysgol tywallt gwaed.

A meithrin pob egwyddor

A chyfiawnder o dan draed.

 

Gorweddai llu o ymwelwyr

Ar ben Porth Neigwl draw,

A charbed Duw o danynt

Yn flodau ar bob llaw;

Ond daw yr Ysgol Fomio

I’n mysg ag erchyll frad,

Bydd arogl mwg brwmstanaidd

Yn llenwi ffroenau’r wlad.

 

Ble bu arweinwyr crefydd

Am ysbaid blwyddyn gron

Heb ddeffro o’u cysgadrwydd

Nes daw y nawfed ton?

‘Rwyn ofni mai bydolrwydd

Oedd gwerthu’r tiroedd bras.

Cael llogell lawn o arian,

A’r pen yn wag o ras.

 

                                                           Ianto Soch. Rhagfyr 20 1936.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com