|
|
"Can
y Butcher II" Hen
gariwrs lon newydd a glywsoch chi son Am
sgarmes y butcher wrth fynd hyd y lon Nid
wiw imi weiddi na llefain yn groch Rhag
digio Talafon a Evan Plas Coch. Yfasant
o gwrrw a gwirod yn ffri Wrth
fyned y boreu ym mharlwr Ty Du. Ond
wrth ddyfod adref cawd dogyn rhy fawr Nes
aeth car y butcher ai wyneb i lawr. Mae
rhai yn darogan yn burion rwy’n dallt Mae
meddwi wnaeth y butcher ag Evan Penrallt Mae’r
ddau yn llesmeitan a chwarae efo’r coch Er
cerydd a chyngor y brawd o Blas Coch. Hugh
Williams Talalfon roes gyngor mewn pryd Mai
gwell fyddai pasio heb stopio’n y Rhyd Ond
ni thalai hynny gan ddau o’r hen griw Sef
butcher ac Evan o waelod y Rhiw. Mae
misus yn gaddo hi’n erwin o hallt Os
byth caiff hi afael ar Evan Penrallt Bydd
croen ei fochgernau’n gryniadau i gyd. Am
feddwi hefo’r hen futcher yn nhafarn y Rhyd. Mae
Twm wedi teithio blynyddoedd heb rif Ond
chlywais erioed iddo fynd ar ei sbri Ond
mae yn dechrau arni yn burion rwy’n dallt Ar
slei ac ar snake efo caseg Penrallt. Y
cerbyd a’r harness sydd allan o drefn A’r
gost sydd aruthrol i’w trwsio drachefn Nid
yw ond oferedd nol barn dyn fel fi Os na seinith Guto ei enw’n T T. ~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |