O Ben Clip Gylfinir

 Gwahanol leoedd a welir o ‘Ben Clip Gylfinir’, Rhiw Lleyn.

 

O gopa Clip Gylfinir, yr hwn sydd ar y Rhiw,

Aneirif lu ganfdyddaf o leoedd heirdd eu lliw,

Sef hirfaith draeth Porth Neigwl a gwyrddion donnau’r aig,

A rhannau mawrion anferth o Fynydd certh y Graig;

Rhosneigwl, Llandegwning, Llangian hefyd sydd,

Mynytho, ger Llanbedrog, Nanhoron a Rhydgoch.

A charnedd Llanihengel, a’r Studwalls Abersoch.

 

Canfyddaf fynydd Carreg a mynydd Odo Gawr,

A mynydd yr Awelog, yng nghyd a’r Mynydd Mawr,

A Mynydd Penarfynydd, ymddengys imi’n hardd,

A dolydd plwy’ Llanfaelrhys fel gleision lysiau gardd;

Ac Ynys Enlli dirion fu’n gyrchfa hoff y saint.

O’r braidd na feiddiaf dd’wedyd fod canfod hon yn fraint;

Gororau Aberdaron, Rhoshirwaen fawr bob darn,

A Bryncroes, fro ddymunol, a siriol bentre’r Sarn.

 

A mynydd Cefn Amwlch, a’r palas cadarn gwiw,

Canfyddaf hwn yn ebrwydd a rhwydd o Glip y Rhiw;

Ac ardal hardd Tudweiliog ac Edeyrn deg ei graen,

A rhan o fynydd Nefyn, a Phenrhyn Porthdinllaen,

A mynydd Carnfadryn ganfyddaf yn dra chain,

Ac ochrau bro Llaniestyn, yn hwylus gwela’r rhain,

Moel Carnguwch, Carn Bodfean, a’r palas hardd ar fryn,

Sydd ran o etifeddiaeth tra glanwaith teulu’r Glyn.

 

Pwllheli, hardd henafol, sydd gyrchfa hoff y wlad,

I wneuthr masnach union a dynion mwynol mad,

A dal mae Craig yr Imbill yn gadarn megis mur

Er cael ei mynych ddryllio gan bylor chwim a dur;

Mi wela’r Eifl a Chlynnog, hen gyrchfa Beuno gynt,

Mae’n lle i dynnu sylw ymwelwyr ar eu hynt,

Can’t wel’d y Ffynnon hynod, nid dinod yw i droi,

A bryniau heirdd Llanllyfni, lle ceir y llechi toi.

 

Mi welaf ben Moel Eilian, ac Arfon, hoff yw son,

Y frodir deg hyfrydlon, a minion ochrau Mon,

Ac ynys Cybi felyn, lle mae’r Goleudy hardd,

Mae hwn o Glip Gylfinir yn tynnu sylw’r bardd;

Mae Cricieth hen iw ganfod, ac ar y bryn uwchlaw

Mae castell hardd a chadarn fu’n dal y gelyn draw,

Bu “Hywel Ddewr y Fwyell” yn gwneud ei ol drwy’r dref,

A dyma’r man gorchfygodd ryw gywrain fyddin gref.

 

Daw Garn Dolbenmaen hylwydd, a’r Gest i’m gwydd yn gun,

A hithau Moel yr Hebog, godidog ynt bob un,

A Morglawdd Madog hefyd sydd gadarn heb ei ail,

Mae’n herio’r tonnau enbyd heb syflyd ar ei sail;

A’r Wyddfa fawr yn Arfon fel Canon wela’n ben,

Yn uwch na’r un ganfyddir ar wyneb Cymru Wen,

Mae golygfeydd rhamantus i’m lonni ar y llu,

I’w gwe’d at gyrion Gelert ac ardal bert Rhyddu.

 

Wrth graffu’n deg ‘rwyn canfod hen Garnedd Dafydd gynt,

Mor gadarn cadd ei llunio er gallu herio’r gwynt,

Rhyw gadwyn o fynyddoedd ganfydda’n deg eu gwawr

O gopa Carn Llywelyn hyd at y Moelwyn Mawr;

Mynyddoedd heirdd Meirionydd yn geinwych ddont i’m gwydd

Ffestinog, bro’r chwarelau, lle ceir y llechu’n rhwydd,

A chopa hardd Arenig, nodedig gwyd o’i gell,

A llu o fan fynyddau hyd at y Bala bell.

 

Mi welaf Harlech wiwlon yn dirion gyda’r Twr,

Lle bu ymladdfa waedlyd gan Owain Glyn y Dwr.

Y Castell hwn feddiannwyd drwy’r arwr dewr di gryn,

Ond dinod iawn ymddengys o ben y Clip pryd hyn.

Canfyddaf yr Abermo yn gryno ar y graig,

Ac afon Mawddach eto yn uno yn yr aig,

A thawel afon Dyfi sydd yn y pellter maith

Mae’n gywynasgar hynod, nid dinod yw ar daith.

 

A Chader Idris hefyd ganfyddaf ar ei sail,

I’w gwel’d ar wyneb Meirion, at union godiad haul,

Lle bu yr hen “Ddewinwr” wrth dremio’r cysawd cun,

Yn derbyn gau hyfforddiant er datgan tynged dyn

Canfyddaf ryw gilfachau a rhwysg fynyddau’n rhes,

Pumlumon, Aberteifi, yw un o’r rhain sy’n rhes,

A siriol iawn ymddengys bell fannau’r Deau dir

O Ben y Clip, er syndod, os bydd yn ddiwrnod clir,

 

Daw’r Ynys Werdd i’m gwyddfod, er syndod ambell waith,

Yn ngorwel y Gorllewin, er bod y ffordd yn faith,

A llu o fan fynyddoedd ganfyddaf yn y wlad,

Mae’r rhain i’r llygaid dynol yn fuddiol olwg fad;

Mae Culfor Sior i’w ganfod yn hynod ar ei hyd,

A beunydd mae yn effro yn gwingo yn ei gryd,

Fe’i gwelir ar adegau yn tynnu at y crys,

A dyrnu pawb a phopeth mewn bariaeth gyda brys.

 

Mi welaf lu o longau yn rhwygo’r tonnau’n rhes,

Mor chwim maent yn prysuro a llywio er eu lles,

Gwna rhai eu cwrs i’r gogledd ac eraill tua’r de,

Er mwyn bael torri’n brydlon anghenion gwlad a thre’,

A gwelaf yr eglwysydd yn lluoedd ar bob llaw,

Ac amryw demlau mawrion a thirion yma a thraw,

Cyfleus fel man i draethu y genadwri’n glir.

Mae rhain o ddwyfol drefniad nis methant ddal eu tir.

 

A gwelaf yr ysgoldai fel rhyw fwyngloddiau glan

Yn arllwys eu goleuni i’r ieuainc ar wahan,

A lluaws o fasnachtai i’n llonni oll yn Ll’yn

Tra gwerthfawr yw eu hamcan i dorri angen dyn;

Rhag digwydd dod amheuaeth yng nghylch y gan rhyw dro

A hwnnw fynd ar daeniad fel corwynt dros y fro,

Hwn ydyw’r cyngor goreu, wel dewch i gyd am drip,

Cewch weld y cwbl, er syndod ond dod i Ben y Clip.

                                        Gwilym  y Rhos.  1875.

Diolch yn fawr iawn i Mr Wil Williams.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com