Llythyrau  Tyddyn  y  Gaseg

 

Tyddyn y Gaseg  1870, fy annwyl fab hynaf, Sion Glyn,

Mr. Jones, y gweinidog yn garedig gynddeiriog sy’n sgwennu y geiria’ fan hyn.

Erbyn hyn mae dy frodyr i gyd wedi gadael am Loegar i chwilio am waith,

A’r Tyddyn yn unig a’th fam yn hiraethu, nosweithiau yn dawel a maith.

Ond mae Buddug dy chwaer di a Jac Tyddyn Isa’ yn sôn a briodi’n yr haf,

Tybed a fedri di ddod draw i’r briodas?  Mi fydda dy weld ti mor braf.

 

Tyddyn y Gaseg  1880, fy annwyl fab hynaf Sion bach,

Cyfarchion i’th gymar ag i’r pedwar plantyn, gobeithio y tyfan nhw’n iach.

Mae Robin dy frawd mewn ychydig o helynt, un byrbwyll a fuo fo ‘rioed.

Y gaeaf yn galed yma’n Uwchaled, a Chicago mor bell ac erioed.

Ac mae Jac Tyddyn Isa a Buddug yn hapus, a’r plant yn iach ac yn gry’,

Mae’r hynaf yn cropian, yn crwydro i bobman  -  mae nhw’n deud fod o’n debyg i ti.

 

Tyddyn y Gaseg  1890,  fy annwyl Robin, a Glyn.

Drwg calon gennyf yw torri y newydd fod eich annwyl fam wedi mynd.

Daeth ei brodyr a Buddug a Jac Tyddyn Isa i’w chladdu ym mynwent y Llan,

Mae pawb yn garedig, Jac yn enwedig, ond ‘r hogia ‘di colli eich mham.

Mae yn dda gen i glywed fod Robin yn dychwel efo’r arian, fe all brynu tir,

A titha  Sion Glyn ar ol amsar fel hyn?  Efalla doi dithau cyn hir.

 

Tyddyn y Gaseg  1892,  fy annwyl frawd Glyn,

Drwg calon gennyf yw gorfod sgrifennu rhyw eiriau digalon fel hyn.

Fe hunodd ein tad ni ar ddechra mis Ebrill, mae’n gorwadd wrth ochor ein mam.

Aeth Buddug a’r teulu, Glyn bach a finna, i’w gladdu ym mynwent y Llan.

Mae Buddug yn deud fod o’n siarad amdanat tan y diwadd, ag  ynta’ mor wan.

Fe hoffai y teulu a llawer o’th ffrindia’ dy weld ti yn ôl yn y Llan,

Ac mae Buddug yn deud fod o’n siarad amdanat tan y diwadd, ag ynta’ mor wan,

Ac fe hoffai y teulu a llawer o’th ffrindia’ dy weld ti yn ôl yn y Llan.

~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com