Ffynon  Min  y  Môr

                                                                                     (Sef Ffynon Fair,  Aberdaron).

Atgofio bro fy mebyd

I’m bron lawenydd bair,

Hen’Aberdaron, dirion deg,’

Bro dawel Ffynon Fair;

Y ffynon fechan loyw

Wrth gulfor Enlli a’i lli,

Tri ugain mil o’r seintiau gynt

Ddiodwyd ynddi hi.

 

Ar lawer nawnddydd tawel

Diodwyd finau’n hon,

Ni welais byth bereiddiach dwr

Na ffynon Min y Dòn;

Rai gweithiau, mi fum ynddi

A’r tonnau yn ddirôl,

Yn taflu eu heli iddi hi,

Ond buan y croywai’n ol.

 

Mi rown y byd yn gyfan

Am fod fel Ffynon Fair,

Yn bwrlwm bywyd iach i’r byd

Mewn meddwl, gwaith a gair;

A chryfder yn fy nghalon

I fwrw llygredd hwnt,

A thaflu tòn meddyliau drwg

A’u heli’n ol i’r ‘swnt.’

 

Yn cadw fy ‘hunaniaeth’

Dan donnau ‘ffasiwn’ byd,

Yn gyfrwng ffrwd gwirionedd pur,

Heb chwenych ffafr a’i hud;

Yn arllwys mewn dinodedd,

Yn fodlon ar fy mraint,

Yn rhoi i bawb ddymunai gael,

Yn grwydriaid gwael neu saint.

 ~~~~~~~~

Allan o’r ‘Pistyll Cyntaf,  gan  J.T. Williams.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com