|
|
Caban
Mab y
Môr Y’ngolwg Ynys Enlli Mae caban mab y môr; Bob dydd y gylch y llanw Y gro o flaen ei ddôr: Ac yn y caban hwnnw Mae Meinir ysgafn fron; Fel un o’r morforynion, Neu dylwyth teg y don. Y gwylain yw ei cheraint, A’r draethell ei hystad; Ond gorau gan ei chalon Yw cwch pysgota’i thad; Aml dro yn ei mabandod Y cwch fu iddi’n grud; Y tonnau yn ei siglo, A minnau’n wyn fy myd. Liw nos, pan fwy’ yn cychwyn I gynnull maes y don, Bydd Meinir ger y caban A’i grudd mor wen a’i bron: Un ofnus yw ei chalon, A chas yw ganddi’r trai; Nis gall, medd hi, ei garu, Heb garu’i thad yn llai. Ond pan fo ‘nghwch yn dychwel, Liw dydd, at Graig y Llam, Bydd Meinir yn fy nisgwyl, A’i gwên fel gwên ei mam; A beth mor fwyn a’i chroeso, Ar ôl y cyfnos hir? Mae ‘mherl yn caru’r llanw, Mae’n dwyn ei thad i dir. ~~~~~~~ Allan o Telynegion y Môr,
‘Telynegion Maes a Môr.’
|
|
Copyright © Rhiw.com |