|
|
Atgofion Mebyd Atgofion am ddyddiau fy mebyd Wna’m calon i fyned yn syn: Rhyw chwaon nefolaidd a deimlaf Pan gofiaf hen fwthyn Penbryn. Er teithio am hanner can mlynedd Anialwch blinderus y byd, Wrth gofio y bwthyn ym magwyd, ‘Rwyn teimlo yn ifanc o hyd. Y chware ar Fynydd yr Ystum Ar dawel ddechreunos o haf, Ymryson mewn rhifo y llongau Fordwyant y cefnfor yn braf: A stontio o gylch Carreg Samson, A chredu’r hen chwedl bob gair, Pe cawsem ni bŵer i’w threiglo Ceid crochan odani’n llawn aur. Dof eto i Ysgol Rhydlios, A thwr o ddisgyblion pryd hyn, Er chwilio amdanynt drwy’r cydfyd, Cyd-rhyngof â llawer mae’r glyn. ‘Rwyn gweld Elis Jones, yr hen athro, A chlywaf yr awrhon ei lais, Ei “Silence, Be Quiet, Be Sure”, A hyn bron oll oedd o Sais. ‘Rwyn clywed y ‘tables’ yn myned, A ‘spellings’ yn dyfod i’m clyw, A’r darllen mewn Saesneg afrosgo Benodau o eiriau fy Nuw: A chofio’r gair Saesneg a gaffom I fyned o’r ysgol yn dasg: A’r miloedd helyntion direudus Wrth glepian am wyau y Pasg. Atgofion am straeon bwganod Hyd heddiw ddychrynnodd fy mron, A’r hen William Crydd yn eu hadrodd Nes collem ein hanadl o’r bron: Hen ‘Fwgan Pendre’ - dyna ellyll A’n gyrrai yn welw ein stât, Un arall yng ngwaelod yr Ystum Ac olwyn o dân yn y giat. J.T.W. (Tad y Parchedig Tom Nefyn Williams.).
|
|
Copyright © Rhiw.com |