|
|
"Y Stampid" Rol cinio Gwyl Sant Steffan Daeth galwad ar y ffon I Rhian gwraig Bodwyddog "Mae’r gwartheg ar y lon"
"A myned maent fel mellten I lawr am Bont Ty Rhyd, Nid dwy neu thair ohonynt, Ond degau-am stampid.
Pan basient heibio Tryfan I’w got y rhuthrodd Vaughan, A ffwrdd ag ef trwy’r caeau I’w dal i lawr y lon.
Ond er ei "rugby training" Ni chafodd flaen ar rhain, Yn ol i’r lon fe ddringodd Dros wifren, clawdd a drain.
Ac yna cafodd syniad Wrth ymyl Pont Ty Rhyd- "Caf fenthyg beic gan Robat Fe’u daliaf nhw i gyd"
Pan oedd yn ymyl Blawdty Daeth Wil mewn tymer gas, A Dei a Gruffydd Owen A Rheinallt Jos y gwas.
Ond er y dynion cryfion A’r gyrru fel y gwynt, Ymlaen yr ai y gwartheg A hynny’n gynt a chynt.
Fe basiwyd Siop Pencaerau Ty’r Efail hefyd do, Ai’r Morris bach trwy’r ffosydd A Wil bron mynd o’i go.
I lawr am allt y Geufron Y gwibiai’r gwartheg ffol, A’r cowbois ar eu holau Heb obaith troi yn ol.
O’r diwedd fe ddaeth blinder I leddfu’r gwartheg ffol, Troi mewn wnaeth rhai ohonynt I orffwys ar y ddol.
Ymlaen yr aeth y gweddill Am Morfa Mawr ar ras, A Wil yn dal i ddilyn O hyd mewn tymer gas.
Daeth diwedd ar yr helynt Rol rhedeg bron i awr, Fe lwyddodd Wil i’w pasio Yn ymyl Morfa Mawr.
A’u troi yn ol am adref A wnaeth’rhen Wil yn syth, Yn wir’roedd wedi meddwl Na ddaliai’r gwartheg byth.
Yn araf iawn cychwynwyd, Yn ol am adref nawr, Y gwartheg yn glafoerio A’u traed mewn poenau mawr.
Y dyrfa yn cynyddu Wrth nesu tue thre Daeth rhai o gaeau’r Penrhyn Ar lleill- wyr neb o lle.
Cyrhaeddwyd fferm Bodwyddog ‘Rol teithio araf iawn, Ac ar ol rhai trafferthion Fe’u cafwyd hwy i mewn.
Wel dyma wers i William I gau y giat yn dynn, A pheidio beio David Am ddigwydd peth fel hyn.
Cynghorwyd ef i brynu Giat sydd yn cau ei hun, Rhag digwydd hyn byth eto I dorri ar hedd Pen Llyn! |
|
Copyright © Rhiw.com |