|
|
Galar-Gan, Yn Cynwys HANES ALAETHUS Am Long-ddrulliad y Brig Bristol, O GAERLLEON ym Mhorth Ysgo, ar 16eg o Rhagfyr 1819 William Williams, Llywydd. ~~~~~~~~~~~~~ Y Brig Bistol O f’awenydd, can gwynfanus, A thosturus aethus dôn; Mae tristlawn newydd wedi dyfod, Oh ! gresyndod ! garw son ! Bro Llanfaelrhys, a’i thrigolion, Hwy sy’ dystion o’r sad waith, Yn Mhorth Ysgo, a wnaeth cryfdwr Gwynt a chynwr’ llifddwr llaith.
Ar yr unfed nos ar bymtheg O fis Rhagfyr y by’r braw, Yn y flwyddyn un mil, wyth gant, (Digon wiriant) deg a naw; Cododd tymestl, tywydd milain, Gwynt oer sain o Ddwyrain Dde, Y môr eigion yn ymrwyso;-- Na b’o’r fath gyffro fyth ag ê.
Y Brig Bistol o Gaerlleon, A nofiai’n dirion fwyn y dwfr, Captain Williams, ddyn medrusaidd Gwar a llariadd, nid gŵr llwfr, A phump o Lanciau arferedig, Iach a diddig uwch y dôn, Oedd er eu mordaith rhwng Pen Dewi Ag Ynys Enlli y nos hon.
Y tywyllwch a’u mautellai, Niwl a’u cuddiai, anial cas, Fel na welent ddim ond creiswyr. Ferw brigwyn crychfôr bras, Weithiau i fynu yn dyrechafu,-- Angau,n gwgu –ing i gant, Weithiau’n isel (aeth a loesion) Rhwng dwy don yn eigion nant.
Ei llwyth oedd haiarn, crynion folltau, Goreu darnau o Gaerdydd, I’w dadlwytho yn nhre L’erpwl; Oes i feddwl—sy’—a fydd, Mai dyna’r achos i Gylchnodwydd, Eu harweinydd dydd y daith, Dueddu i’r dwyreiniol ddryghin, Yn lle at hin Gorllewin llaith.
Os oedd ymchwydd y môr-gwysi Yn eu sobri hwy nos Iau; Oh fore Gwener ! Oh fawr gyni, Pan ydoedd hi yn min dyddhau, Y llong wrth ystlys Maen Gwenonwy Yn brysiodwy’r rhyferthwy fawr; Dim ond cerig geirwon anferth, Blin eu nerth, o’u blaen yn awr.
Pwy ddychymyg eu dychryndod, Gan fawr hylldod gwyn fôr hallt, O fewn ychydig o wrydau I fawrion greigiau godrau gallt; Angor cadarn a ollyngent, Hwnw fwrient yn y fan, Dal a wnaeth, er bod y weilgi Yn nerthol lenwi wrth y lan.
Bu am enyd yno’n morio, Fel yn dawnsio ar flaen y dôn; Ei duwiol lywydd, a’i wr truain, Yno eu hunain o fewn hon; Nid oedd fodd i neb fyn’d attynt, Gan uchelwynt, cyrchwynt caeth; Hwythau’n ofni’r llong chwilfriwio Ar greigiau’r fro cyn treio’r traeth.
Gan wlaw a niwl y tir pan welent, Nid adwaenent—ofnent ef, Rhag mai ardal anghyfanedd, (Pwll dirinwedd) pell o dref, Meddyliasant, os diangent Hwy drwy lwyddiant, hyd i’r lân, Mae ‘sbeilio, lladd, neu waeth na hyny Newyny—rhynu—fyddai’u rhan.
Yn y Llong ped arosasent, Hwy fuasent etto’n fyw; Ond nid oedd hyny yn ol trefniad Rhagordeiniad gywir Duw; Mesurwyd amser, awr, ac enyd, Penodwyd hyd y bywyd byr; Pan ddel i ben, ‘does fodd i’w estyn, Angau-terfyn-ing a’i tyr.
A phob peth feddo gwr dan dromloes, Am ei einioes rhwydd ymâd, Llongau cedyrn, aur neu arian, Dillad glan, neu lydan wlad; Felly hwythau a adawsant Hyny feddant yn y fan, Iselu’r Bâd, pob un iddo, I ymlywio am y lan.
Daccw’r Cwch ar fôr tymhestlog, Ewynog, tonnog, bryniog, bras; Weithiau ar y dôn yn amlwg, Weithiau o’r golwg rhuthrai’n gas— Ofn a gobaith cyd blethedig Yn weledig ar y lan, Gwynt ac angau yn cyd chwareu, Hyrddio’u goreu i foddi’r gwan.
Egniol ddynion rwyfai’n gyson, A’r Bâd o dôn i dôn y daeth, Nes oedd ar y moryn olaf— Y man trymaf y’ min traeth; Yn min y lan y môr a’u suddodd, Dadymchwelodd, boddodd bump, Er bod angau i rai’n elw, Trwm yw marw—garw gwymp.
Mae’r Llywydd grasol, a’i Fab heini, Wedi boddi, ddifri ddau; Robert Humphreys o Gaernarfon, Cu a ffyddlon eu coffhau; Lewis Jones, o dref Abermaw William Benjamin, o Gaer; Newydd trwm i briod dinam, I dad a mam, a brawd a chwaer.
Daeth Robert Owen o Gaergybi, O fawr li’ yn fyw i’r lan Ca’dd ei daflu—Duw’n gorchymyn, Gan ryw foryn, gorphyn gwan; Gobeithio gwna y cyfryw rybudd Ef yn ufudd i fyw’n was I Grist; caiff weld’ i dragwyddoldeb Ragoroldeb cywir ras.
Gofid eglur, ddychryn tostur, A byw prysur i bob bron, A oedd yn gwel’d y rhai trangeedig Ar uchelfrig dig y dôn, Neu o’r golwg, Oh ! awr galed ! Heb obaith cêd ymwared mwy; Y môr, yn erbyn creigiau cedyrn, Yn dryllio’n chwyrn eu hesgyrn hwy.
Fel hyn Williams a fu farw, Ei gorph salw—welw wawr, A gaed y’mhen ychydig, wedi Boddi yn y morlli mawr, Medd pawb a’i dwaenai yn ei fywyd, Mae ei ysbrrd diwyd ef Wedi ‘ hedeg, drwy’r cymylau, O’r tonnau i’r lan olau nef.
Pan oedd Williams fwyaf prysur Gyda natur, cnawd, a’u nerth, Yn morio ar y cefnfôr llydan Tu a glan gwlad Satan serth, Llais a alwodd—yntau glywodd, Duw eglurodd ei deg lef; Awel gras, a Christ yn Llywydd, Droes ei nodwydd tu a’r nef.
Pan ei gwnaed yn adnabyddus O’i druenus gyffwr drwg, Daeth i weled ei beryglon— Tonnau mawrion, tân a mwg; Ei enaid lanwyd a thosturiol Eiddigedd duwiol—gweddi daer, Dros y morwyr annheimladwy, O fin Gwy i afon Gaer.
Gwelai’u bod hwy yn mordwyo, Ac yn brysio, heb un braw, Tu a gwlad sy’n llawn tywyllwch, Poen a d’ryswch y pen draw; Anghrediniaeth gyda’r hwyliau, Anystyriaeth wrth y llyw; Bron a dryllio ar greigydd diffaith, Mewn nos faith, heb obaith byw.
Fe gynhyrfwyd—Duw trugarog, Galluog, yn ei anog ef, Rhoes iddo nerth ac ysbryd bywiog, A chalonog uchel lef; Tân enynwyd yn ei enaid, Fflam fendigaid, gannaid, goeth, Nes bod y Llong, neu’r man y trigai, I’r rhai bechai yn rhy boeth.
Fe droes allan i bregethu, Efengylu yn mhob man Y cai gyfle, fel ei Arglwydd— Yn y Llong, neu ar y lan; Gwnai ei bulpud wrth yr hwylbren, Areithiai’n llawen wrth y llyw, Ar y traeth hyfforddiai’n ddifyr Ei gyd frodyr—forwyr fyw.
Ef ei hun, o Longwyr Cymru, Fu’n pregethu—pura gwaith; Os na llithrig oed ei ddoniau, Pur ei eiriau, pêr ei iaith; Annhraethadwy ei daerineb, A’i ffyddlondeb hoffaidd, lwys, A llafurus ei holl fwriad, Llawn o gariad—teimlad dwys.
D’wedai’n eglur fod peryglon O flaen dynion aflan daith, A bod Iesu yn Waredwr I’r Llongwr ar y llifddw’r llaith; Mai y’mhorthladd Edifeirwch Ceir hoff heddwch—cywir ffydd, Angor Gobaith yn ddiogel, Hynaws dawel, nos a dydd.
Mwya’ parod y’mhob perwyl, Oedd y nghorchwyl anwyl Iôr; Ei gynghorion a fu’n elw I rai meirw ar y môr, Molir byth yn Ardal Gwynfyd, Tir y Bywyd—hwnt i’r bedd, Am yrru Williams i wa’dd morwyr, Feirw Longwyr, i’r fawr wledd.
Mae Aberoedd Cymru’n ochain, Sain wylofain sy’n y wlad, Tristion Llundain, L’erpwl, Bistol, Caer, ar ol eu duwiol dad; Y’mhob porthladd ac angorfa, Cyniweirafa y cawn fod Galar; lle bu’r Arglwydd trwyddo, Unrhyw dro’n egluro’i glod.
I’w anwyl Briod y mae trymder, Briw a blinder, braw i’w blant; Am dano, mewn daearol dristwch, Mwy na soniwch—mae ê’n Sant, Os dilynwch hyd eich heinioes Ffordd y Groes, mewn gwir ffydd gref, Cewch (fel yntau) yn dragywydd Enw newydd yn y nef.
Rhoed ei gorph, a chorph ei blentyn, (I’r fath ddyn y perthyn parch) cyn eu symmud o Lanfaelrhys, Mewn dau drefnus, weddus arch. Yn Dyneio wrth Bwllheli, Y maent yn llechu yn y llawr; Yno byddant nes dêl galwad Codiad i’r ymweliad mawr.
Chwi Athrawon y wir Eglwys, Yn ddiorphwys, gymmwys Gôr, Gyrwch Iachawdwriaeth dirion I rai meirwon ar y môr; Taer weddïwch fod i’r Llongwyr, Anghredinwyr ar y dôn, Dd’od i gaffael adnabyddiaeth O’r Iachawdwriaeth helaeth hon.
Boed i Arglwydd Dduw y Lluoedd Ar y dyfroedd yrru dawn, Gwir oleuni—ysbryd gweddi, A fo’n llenwi’r Llongau’n llawn, Cariad Williams. a’i ffyddlondeb, A doethineb rhad waith Iôr, I bob Llywydd a fo’n Gyfraith Dros wyneb llaith a maith y môr.
~~~~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |