|
|
Y Bleserlong
Daeth pleserlong hardd yr olwg I fau Neigwl hyn sydd amlwg. Gyda’r gwyllnos, distaw rywfodd Ger y Trwynau yr angorodd.
Draw o Ffrainc yn llawn bon’ ddigion Gyda merched ieuangc gwiwlon, Ar ei bwrdd ‘roedd pawb yn llawen Heb un cyffro, poen, na chynnen…
Cânt pob un eu gwir ddifyru Nes mantellai’r dudew fagddu, Ar y lan ‘roedd angau creulon Yn par’toi ei frwnt gynllwynion.
Gwyr y Rhiw fu yn cynllunio Pa fodd gallent eu hysbilio, Cynent dân o wellt a rhedyn I’w hyd – ddenu at y dibyn.
Daeth y morwyr druain atynt Gyda’u cwch a mawr fu’r helynt; Ond hwy laddwyd, hyn sy’n rhyfedd Gan y bodau didrugaredd…
Tori’r bysedd, tori’r clustiau, Er cael allan aur fodrwyau; Bwrw’r merchaed glân i’r tonnau Dyna rai o’u hechyllderau.
Dau yn unig gaed yn euog O’r camwri anhrugarog; Sion y Sarn, Hugh Treheili Dyna’r ddau a gadd eu crogi.
Aed a hwy i Forfa Crugan Ar ddau bolyn mawr i hongian; Yno buont hyd nes braenu Fel yn rhybudd i’r holl Gymru.
Nid oedd modd cael un ddihangfa O dan gyfraith Siarl y cynta; Ond eu rhwymo a chadweini Wrth y caed ger tref Pwllheli…
‘Er goleuo’r anghyfarwydd Mil chwe’ chant oedd oed ein Harglwydd, Naw ar hugain roddwn eto Dyna’r adeg trwm i’w cofi.
Fe ddisgynnodd barn amserol Am yr helynt tost canlynol; Dros wlad Llŷn y flwyddyn wedyn Fel na thyfodd yr un gwelltyn.
O mor drist oedd i’r trueiniaid Wel’d gwynebau y fath fleiddiaid; Gresyn iddynt fyn’d i drwbwl Ger y Rhiw, a godreu Neigwl. Ieuan Lleyn ~~~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |