"Strach ger Eglwys Mul"

I’r Sarn i’r ocsiwn ddodrefn

Aeth criw o ferched glan.

A chyda hwy un gwryw

Os coelir stori’r fran.

 

Yn Rover mawr Llys Gwilym

Y teithiai’r genod hyn

A’r gwron aeth i’w canlyn

Oedd Dafydd o Dir Glyn.

 

Bu’r pedwar yn llygadu

Am fargen drwy’r prynhawn

A daethant oddiyno

Yn teimlo’n fodlon iawn.

 

Ond wrth fynd tuag adref

Daeth braw i’r gwariwrs swanc

Wrth weled gauge mor isel-

Oedd petrol yn y tanc?

 

Mae’r Rover yn bur enwog

A’m syched yn ddi drai,

Ond gwyddai Jean yn burion

Mae’r gauge a oedd ar fai.

 

Ysywaeth dyma’r moto

Yn nogio’n lan mewn sbel

A dechrau rhegi a rhwygo

Wnaeth rai o’r cwni swel.

 

Ger Eglwys Mul bu’r drafferth,

Aeth Lina i Ty Rhos

Aeth Nan i biffian chwerthin

A’r Dafydd roedd hi’n nos.

 

Cans wedi wejio’r ydoedd

Dan gadair brynodd Jean.

A damio honno wnae o

A bwgwth cicio’i thin.

 

O’r diwedd daeth Ffred Dafarn

A joch o’r hylif coch

I adfywhau y Rover

A stopio’r bloeddio croch.

 

Wel Dafydd Nan a Lina ,

Fe gawsoch helynt flin,

Rhaid morol cyn mynd eto ,

Bod petrol yn nhanc Jean.

~~~~~~~~~~~~~~

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com