|
|
Diriwiad yn y Rhiw. Nid wy’n nabod wynebau - yn y Rhiw Lle mae’r iaith mor denau, Wedi mynd i gyd y mae Y werin o’r hen erwau.
Gwn am gyfnod amgenach - a dyddiau 'R hen erwau yn loewach, Oherwydd yn gynharach Yno bum yn hogyn bach.
Cofiaf nain pan oedd heini - un orwych Am fara a chorddi, Ba ryfedd i mi brofi A mwynhau ei menyn hi.
Heddiw nid oes arwyddion - diddanwch Hen dyddynod gwynion, Na golwg o’r trigolion Yn rhodio’i lawr ar hyd y lon. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwerthu'r Hen Gartref. Gwn y gallwn fod gallach - a gwrthod Gwerthu, beth sydd sobrach Na hogyn y bwthyn bach Heb allwedd iddo bellach ?
Gwerthwyd aelwyd y dwylo - yn wastad A fu'n estyn croeso: Dyma drist fydd mynd am dro A mam annwyl ddim yno. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Barddoniaeth gan Mr Gwilym Hughes, diolch yn fawr iawn.
|
|
Copyright © Rhiw.com |