|
|
Porth Neigwl. Porth Neigwl, parth anhygar,--fan affwys, Safn uffern ystrywgar ; Hwrdd twrdd ton beisdon y bâr, Niwlog erch, anial garchar.
Lle gerwin, hylla’ gorog, - terwynllais, Taranllyd ddygyfor ; Ni ryth dryghin y’ min môr, Nawdd i long – ni ddeil angor.
Ei safn nodawl sy’ ofnadwy, - a chroch, Ei chrychaidd ryferthwy ; O gwna ‘i thwrdd gwrdd, a’i gorddwy Lid les mawr, gwneled lais mwy.
Bloeddied, ystormied ei ‘sturmant – glau fawr Glafoeried ewyngant ; Llafared ei llifeiriant, Rhüed y môr hyd ei mant.
Cyhoedded ar led oer li’ – a’i hudgorn, Ei hadgas draethelli ; Eled sain ei hadsain hi, A’i bonllef heibio ‘i Enlli.
Ein llongwyr ni ollyngant – eu llestri, Ei llais drwg pan glywant, Eu cedyrn longau cadwant Ar y dwr, i’r Road hwn ânt.
Goleu ar y Rhiw neu Gilan – fyddai Foddus, fuddiol amcan ; Tŵr eglur, tŷ rhywioglan, Aelwyd teg, i gyfleu tãn.
Neifion f’o ar dywyll nifwl – geidwad Gyda’i dridaint swmwl ; Bob nos a dydd, dywydd dwl, Yn agos i Borth Neigwl.
Safed ar dòn, was ufudd – a bloeddied, B’o llwyddiant i’w rybudd ;- Cadwch draw, rhag braw, rhwyg brudd, Gythryblus, gwae a thrabludd.
Ei chynllun, le trochionllyd, - ni fedraf Adrodd yn fy mywyd ; Iddi ceir, mal y deiryd, Anair gan bedair ban y byd.
Goffrom yw Ewrop ac Affrig, - wrthi Erthwch mae Amerig ; O geill hudo’n golledig, Tyn Assia i ddalfa ddig.
Mae darpar, llachar wawl llon – ar Enlli, Eirianllawr uwch eigion ; Gyr olau, ar brydiau bron, Er oerddu nos, i’r ‘Werddon.
Unlliw fo’th lewyrech Enllif, - ar wen haul Arwain hynt y morllif ; Dy olau uwch y dylif, Gyfenwer "Lleuer y llif."
Lluserndwr, bentwr di bwl – anfon wawr Yn fwyn ac yn fanwl ; Felly’r hir gedwir o gwl Safn agos ёofn Neigwl.
Er iddo wrychio o’r achos, - dwrdio, A’i daerder aniddos ; Pryd tymestlog, niwliog nos, Prudd ing, para i ddangos.
~~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |