|
Llwynogod y Rhiw. (can) Gofynaf rai cwestynau ymhlith cynghorion da, Eglurwch sut i’w hateb a gwnewch yr hyn sydd dda, Rhag i chwi yn eich rhyfyg gymeryd gormod raff, Ac i rhyw ddynion critic gael arnoch chwi rhyw graff.
Pwy ddygodd y cimychiaid o gawell Sion Lon Las? Mae’n debig mai’r un teulu a aeth a’r ddwy wydd fras, Ac hefyd bysgod lawer o gewyll Griff Ty Rhyd Ni thrystiwn i ddim iddynt nad an’t a baich o yd.
Fe gafodd yr hen greisiwr ar ol dod adre’ o’r daith Do, grysbais newydd tewglyd yn broffit ar ei waith, Ar ol bod tua Chricieth yn gwerthu’r baich yn siwr, O lafur hen gre’duriaid fu’n ymladd uwchben dwr.
Pwy ddygodd hwyaid brithion o gwt Meillionydd Bach, Mae’n wir pe caent hwy gyfle yr a’nt ag yd o’r sach, A dwy o wyddau tewion wel dyma hrlfa iawn, A chwip a chalen hogi a chloben o raff rawn.
Mae cwyn i William Owen ar ol y rhain yn siwr, Fe fyddai’n llawer ffitiach eu hanfon dros y dwr, Pe cawn fy ewyllys arnynt eu gyrru’n wir a wnawn I gwmni’r hen John Rholyn i wisgo’r crys yn rhawn.
Pwy ddygodd "Hand Spike" lysti o adwy’r Fryndol gau, Roedd hon, os iawn r’wyn cofio yn werth o swllt i ddau, A gwydddau Meistres Ellis gael iddynt giniaw bras, I ganlyn y baich tatw o feudy Sion Lon Las.
Pwy ddygodd pump o ddefaid hyll ladrad o’r Hendy, A gwyddau Penarfynydd gael defnydd gwely plu, A defaid o’r Plas Newydd gael iddynt wlan a chig Os meiddiwch enwch imi pwy oedd y dyn a’i dug?
Pwy ddygodd halen Isaac o’r sgubor medda fo, Mae gennym rhyw amheuaeth nad yw yn bell o’r fro, A llwdwn Richard William oedd werth deg swllt mi wn, A gwyddau Meistr Bennat os meiddiwch enwch hwn.
Pwy ddygodd yrr o ddefaid i William Tyn y Graig, A dodi’r lladrad hwnnw yn gelwydd ar y wraig, Mae’n debig fod y defaid yn iach, a byw, abod Yn eithaf Uwch y Mynydd chwi ellwch weld eu nod.
Gofynnaf eto gwestiwn atebwch ef yn iawn, Pwy ddygodd o Meillionydd gawellaid mawr o rawn, A rhaffau a fforch deilo a rhawiau gorau o Gaer, A phwy fu nos Nadolig yn ffyrnig wrth y saer?
Ond peidiwch byth a chwyno er iddo fo gael briw, Rhyw ddigwydd syrthio ddarfu ym’hlith lladron Bwlch y Rhiw, Mae’n wir ei bod yn rhyfyg n’enwedig nos ers cwrs I undyn droi o’i fwthyn os bydd rhyw chwech mewn pwrs.
Pwy robiodd Ellis Evan ar ben Porth Neigwl draw A dwyn ei botel whisky a’i faeddu yn y baw? Pwy fyddai’n hel ei defaid i’r Parciau yn y nos? Pwy saethodd yr hen Feirion nes ca’dd ef anferth loes.
Nos wener cyn Glangauaf yr aeth hi’n ddrwg ei threfn Pan ddaliwyd dau hen lwynog a gwyddau draws eu cefn, Yn rhedeg tuag adref yn gyflym ar ei taith, Nes daeth rhyw helsmon heibio i roi terfyn ar eu gwaith.
Pan ffendiodd un hen Slamgi ei fod yn colli tir Bu gorfu taflu’r gwyddau a cheisio cadw’n glir, A throi i’r goriwared a rhedeg at i lawr, Ond ffaelu wnaeth a chyrraedd hyd at y gwastad mawr.
O cedwch oll eich tatw rhag iddynt fynd i bant, Yd, efo cig y gwyddau i lenwi boliau’r plant. A chofiwch gloi’r Sguboriau rhag ofn fod eisiau brag A bod y Cellar eto yn dechrau mynd yn wag.
Mae rhai mae’n eithaf eglur yn hyddysg ar y gwaith, Cyn hyn hwy gawsant lwyddiant rhyfeddol ar eu taith, I fynd a’u ffreitiau adref oddeutu Bwlch y Rhiw Ac felly rwyf yn clywed mai yno maent yn byw.
Pa Gapten gynt yn Lerpwl dderbyniodd ugain punt, Gan William Penbryn Llannor wrth fyned ar ei hynt, Ac addaw rhoddi rheini i gyd i’w fam, a’i dad Heb wybod y gyfrinach i undyn yn y wlad.
Ond glynnu wnaeth yr arian yn nwylaw gwr o Rhiw, Roedd yno dyst yn clywed mae hwnnw eto’n fyw, Rhoes bedair punt i hwnnw am gelu arno’r gwir Roedd wedyn un ar bymtheg i’r Capten hwn yn glir.
Aeth William Penbryn Llannor a’r tyst i’r America, Fe droes y capten eilwaith yn ddwbl mwy o gna, At tad y tyst anfonodd am swm y pedair punt, I’ch mab y rhois eu benthyg yn Lerpwl, coelwich gynt.
Hwy dalsent ei ofyniad yn gyflawn iddo, clyw Heb wybod y pryd hwnnw fod James eu mab yn fyw, Ar ol i’r mab ddod adref y cafwyd gwybod hyn. Dtwedodd James y cyfan am arian Pen y Bryn.
Yn adeg Robert Arthur pwy aeth o Dyn y Graig Rhyw wynwyn-gyflawn daliad roedd hyn yn dro cynhaig, A wynwyn Catherine Harbed ar derfyn rhai o’r brid Rhai wedyn o Ben Nebo un ladrad, ac un llid.
O weithdy Margret Isaac pwy aeth a lledr Sion, Mae eto rai yn cofio er lleied ydyw’r son; A gwneuthr hwnnw’n sgifiau yn brysur iawn medd- Crydd Y nos yn cyflym weithio a chysgu’n nghorph y dydd.
Ond gwyliwch byth a’u henwi na son run hanner gair Rhag ofn fod rhai o honynt yn bartnars am y gwair, A a’ed o ardd Meillionydd am danynt hanes gawn Amcanant yrru Evan i wisgo crysun rhawn.
Pwy aeth o Neigwl Uchaf a haearn gloyw gynt, O "Pocket Book y pothmon pwy aeth a phapur punt Ac hefyd bicin godro o’r Gwyndy yn ei wagnc A phiso i bot llaeth cadw trefollwyn pan yn llangc.
Pwy gariodd aml i gimwch ac amryw geiliog hen Nes cawsent lawn addewid am Fwlch y Garreg Wen, A hyn drwy dwyll a chelwydd does neb a wyr ei faint Cael peidio bod yn debig i’r cyfryw sydd yn fraint.
Mi waeth i mi roi’r gorau yn fuan ac yn faith Ni ddof i ben i enwi pob cramen a phob craith, Maewn gair y maent yn euog o ddrygau mwy na mwy Ac nid oes angen arnaf na fyddai’r gan yn fwy.
Ni ddown i ben i’w henwi pe bawn i wrthi fis Pwy ‘sbleiliodd yr holl erddi yn foron, ffa a phys, Yn hawdd chwi ellwch gasglu a gwybod pwy a’u dwg O Rhiw i Uwch y Mynydd dan nawdd yr "Ysbryd Drwg" ~~~~~~~~ Fel ybernir casglwyd y Gan hon gan y diweddar "Dafydd yr Ysgol" neu fel y byddai rhai yn ei alw "Dafydd un law". Geilw ei hun yn y gerdd Y Gog a’i cant. Cenir y gerdd ar y mesur"Banks of Ireland". Argraffwyd y gan hon gan R Jones Caer Cyffin. Diolch yn fawr i Mr E Morris am y gan yma |
Copyright © Rhiw.com |