
Tra b'o Leyn, a dyn adwaeno - fedrus
Iawn fydrwaith y cymro
Y ceir Ieuan fardd mewn co,
A mawl addas mîl iddo.
Evan Prichard "Ieuan Lleyn"
1770~1832
Wrth ymchwylio i fewn i Rhiw mae un enw yn dod i fynu
dro ar ol tro, ac roeddan yn meddwl os na wnawn dudalen neu ddeg am dano, fuasa
hon ddim yn deilwng i gael cario yr enw wefan Rhiw. Er na hogyn o Fryncroes oedd
Ieuan Lleyn, mae hi yn amlwg ei fod wedi treulio llawer o amser yn Rhiw, ac yn
sicr ei fod yma yn athro yn 1819 pan ddrylliwyd y llong "Bristol" ym
Mhorth Ysgo. Ac ysgrifenodd yr Alar Gan wych am y drychineb. Ar ol hir chwilio
daethom ar draws llyfr "Caniadau Ieuan Lleyn" a gyhoeddwyd yn 1878.
Isod mae sylwadau ar fywyd a gwaith Ieuan gan Myrddin Fardd.
~~~~~~~~~~~~~
Ganwyd Evan Prichard, yn y flwyddyn 1770. Enw ei dad
oedd Richard Thomas Evan; a’i fam, Mary Siarl. Nid oedd dim neillduol yn y
manteision addysgiadol a gafodd tra yn ei ardal i ddringo i’r uchdel ag y
gwnaeth—dim ysgolion enwog—dim cydymagais llenyddol—na dim cymaint a gair
o gefnogaeth i feithrin llafur meddyliol; ond eto yr oedd yno ddigon i athrylith.
Yr oedd yno amrywiaethau o eiddo natur megys wedi cyd gwrdd i lunio ei enidfan
yn arddangosfa o fwynhad i berchen cymaint a marworyn o dan effeithiol
awenyddiaeth. Yma yr oedd yn ymddifyru cyn dechreu oriau ysgol; ac ar ol eu
terfynu, gwelid ef yn crwydro ar hyd y meusydd ac hyd lethrau y bryniau, a’i
galon yn gwresogi, a than awenyddol yn dechreu cyneu yn ei ysbryd. Ond nid hyn
oedd y cwbl, yr oedd yr esiampl a gafodd yn tueddu hefyd i ddadbygu ei awen, yn
gystal ag i arwain ei feddwl i fod yn orlawn o barch i foesoldeb a chrefydd.
Gellir priodoli i’w anianawd gael esiampl
neillduol, er nad llawer o ddysg, yn y gelfyddyd uchelryw, canys treuliodd ei
daid a’i fam edef bywyd yng nghymdeithas ddeniadol yr awen; ac i’w fam y
perthyn yr enw o gyfansoddi y Gerdd ddesgrifiadol a chyffrous ar ddinystriad y
Plas Neugwl gan dan, yr hon sydd yn dechrau fel hyn:-
"Plas Neugwl, trwm yw meddwl yn fanwl fel y fu,"
&c.
Yn 1795, aeth y rhieni i America, ac ar eu
cychwyniad, cyfansoddodd Mari Siarl gerdd i geisio denu ei chymydogion i
gydymfudo, gan ddywedyd mor naturiol.
‘Caem forio’n ddiddig for Atlanig—
‘Does berig yn y byd.’
Fel pe i ddangos ei rhagwybodaeth o ddyogelwch y
fordaith, yn gystal ac i ddangos, yn ddiarybod iddi ei hun, nas galli wneud dim
braidd, ond dan ganu, anfonodd yn ol fel yma:--
‘Twm ac Ifan deuwch yma,
Peidiwch gadael Deiniol yna,
Deuwch yma chwi gewch weled
Sut a’r modd y mae hi’n myned.
Sylwadau Ar
Wrth feddwl am fy ffrins a’m brodyr,
Wylo byddaf lawer deigryn,
Wrth feddwl na chaf byth eu gweled
Tu yma i gaerau tragwyddoldeb.’
Dyma eto benill o’i heiddo:-
‘Dyn sy’n hau a Duw sy’n hadu,
Duw sy’n peri i’r gwenith dyfu;
Ac oni bai fod Duw’n rhoi ‘i fendith
Dan y gwys, fe bydrai’r gwenith.’
Yr oedd i Ieuan gefnder, o’r enw Lewis Siarl, yr
hwn na freintiwyd a "synwyr cyffredin," fel y dywedir, ac a arferai
fyned i Gapel Ty Mawr, Bryncroes; lle hyfryd ganddo yn ei fywyd fod bob Sabboth,
yn aflonyddu’r addoliad, oni rwystrid ef gan ddrycin neu afiechyd. Un tro,
gwedi cael rhyw fath o gerydd gan ei dad, torodd allan yn y lle yn ddifyfyr yn y
dull a ganlyn:
‘Gruffydd Salmon yn Nhy Mawr
Yn pregethu,
Yn peri i’r bobl ar y llawr,
Beidio pechu;
Minau sydd yn cadw nad,
Ar y grisia’,
Ac yn achwyn ar fy nhad
Wrth y dyrfa.’
Car iddo oedd Richard Siarl, yr hwn a fu mewn
ychydig ymgiprys prydyddol ag Eben Fardd. Yr oedd ei dad Siarl Marc, yn brydydd
awenber, a naws yr efengyl yn rhedeg drwy bob llinell o’i eiddo, fel yn y
pennill canlynol o’i gyfansoddiad :-
‘Dysg im’ dewi megis Aaron,
Dan holl droion dyfnion Duw;
A dywedyd megis Eli,
‘Gwnaed a fyno, f’ Arglwydd yw !’
Megis Job yn amyneddgar,
Peidio d’wedyn geiriau mawr,-
Duw sy’n codi dyn i fyny,
Ac yn taflu dyn i lawr.’
Ymddengys mai cadw ysgol ddyddiol y bu Ieuan, dymmor
yn Llangian a thymmor yn Llanddeiniolen, o’r adeg y lled-gymerodd gofal y
bywyd hwn afael ynddo, hyd y flwyddyn 1795, pryd y i Loegr, i ddilyn y swydd o
Excise Officer, dan y Llywodraeth, ond ni wnaeth ei arosiad yno nemawr les iddo,
fel y tystia yn y llinellau hyn.
‘Crwydrais dir Sais, nid da ‘r son,
Y mae aeth i mi weithio ;
O achos hyn. Och y sydd,
Colledwyd y Cyllidydd ;
Gorfod imi’n ddifriol,
Glydo’n waeth i’m gwlad yn ol.’
Ei Fywyd a’i Waith.
O gylch y flwyddyn 1812, ar ei ddychweliad yn ol,
ymgartrefodd gyda’i ewythr, Lewis Siarl, yn Ty Mawr, Bryncroes. Wedi hyny,
ymgymerodd â chadw ysgol râd symudol plwyfydd Rhiw, Aberdaron, a Bryncroes, a
chafodd enw mawr am ei ddoniau a’i ddiwydrwydd fel athraw; ond swydd sychlyd
ac anfarddonol i’r eithaf oedd hon; eto, bu yn ystig i’w dilyn drwy gydol ei
oes; ond meddyliodd am leihau tostur y swydd drwy fyned i’r cwlwm priodasol a’i
gyfnither, Mary Robert Thomas, Hen Dỹ, Bryncroes (lle, erbyn hyn, 1878,
sydd wedi syrthio i adfeilion), ond ni chafodd nemawr drefn ar y byd. Tlawd a fu
o’i febyd i’w fedd; er na fu iddo namyn tri o blant. Yr oedd mor ddifeddwl
drwg a baban; nid ymdrafferthai ddim gyda’r dyfodol, ond cymera bobpeth fel y
rhedai ei dryn yn ei erbyn. Ni wnai un ymdrech i wthio ei hunan i sylw, ond yr
oedd ei dalent yn gwneyd hyny fel o’i anfodd. Ni wyddai beth oedd rhodres na
gweniaeth, a buasai tipyn o haerllugrwydd yn lles iddo yn y byd rhyfedd lle’r
oedd yn byw. Bellach cymerwn olwg arno yn ei lafur gyda gwahanol gangenau
llenyddiaeth.
‘Diod o win da ydyw i wr—gwan
I gynal ei gryfdwr ;
Ond gwell i ben ymsenwr,
Na gormod, ddiod o ddwr.’
~~~~~~~
‘-------------y brenin a yfai
Ormod o’r ddiod----gwirod a garai---
Mewn dirmyg ei ryfyg ni arafai,
Blas y gwin, awydd a blys gyneuai,
Anian anwen enynai---yn fflamllyd,’&c.
~~~~~~~
‘Gwledd fawr i arglwydd fil.’
‘O ynfyd falchder anferth,
O ddirmyg, ffiaidd armerth !
O ryfyg yn niwyg nerth !’
~~~~~~~
‘Llawen ei lys, llawen ei wledd – yn dechreu
Ond dychryn ei diwedd;
Ar yn lle gorfoledd.’
~~~~~~~
‘ Bum loyw iach hoyw uwch haint,--- meddwl
Moddus nad oedd gymaint ;
Ffoes y bri, ni orphwys braint----
Ei hunan ni ddaw henaint.
‘Crinodd, ‘e gwympodd y gwallt,--- wele dof,
Ail dyfodd yn fanwallt,---
Heddywgwyn fel haidd gwenallt
Fethiedig, wywedig wallt,’
~~~~~~~~~~~~~~~~
Claddwyd Ieuan ym mynwent Bryncroes, ei blwyf
genedigol, a dodwyd yr argraff hon ar domawd ei fedd :----