Twm_pen_y_groes.jpg (89419 bytes)

"Dyn y Pwmp"

‘Rwyf yma heno hefo’r pwmp

Yn gwylio’r dwr rhag dod o’r swmp,

Mae’r hogiau yn y dref i gyd

Ar ol hen demtasiynau’r byd.

 

Rhyw fyd ofnadwy yw hi’n awr

O na ddoi bellach dorriad gwawr,

Mae merched ieuanc hardd eu bryd

Yn feddw yn y dref o hyd.

 

Ewch yno’ch hunain i weld yn iawn

Mae’r tai tafarnau yno’n llawn,

O ferched, dynion o bob gradd

A’r diafol yno yn eu gwadd.

 

O na ddoi hedd i’r byd yn ol

Fel y diflannau pechod fol,

A chysur ar aelwydydd gwlad

I’r hogiau pan yn ol i’r gad.

~~~~~~~~~~~~~

Gwaith Tom Jones, Pen y Groes, Rhiw, Bryncanaid yn ddiweddarach, tra ar "shift" nos yng ngwaith manganis Benallt ar nos Sadwrn, pa amser dydw i ddim yn sicr, bu y gwaith ar agor o 1939-1945, gallai fod unrhyw adeg yn y cyfnod yna.

Yr oedd Tom yn gweithio shifftiau ac yn gyfrifol am reoli mynd a dod y gweithwyr a’r wagenni- llawn a gwag- yng ngwaelod y shafft, rheoli caits a oedd yn mynd i lawr ac i fyny, roedd hefyd yn gyfrifol am wneud yn sicr na wnai y dwr oedd yn casglu yn y swmp yng ngwaelod y shafft, o holl dwnnelydd y gwaith or-lifo fel y gwnaeth unwaith o ddiofalwch, a bu gorfod cau y gwaith i lawr am tua tair wythnos tra yn pympio dwr allan.

Un arall o’i weithiau oedd hon, yn Saesneg y tro yma, yr oedd bwyd yn brin amser yr Ail Ryfel Byd, ac ar ddogn. Eglurhad ar y "tram" ydi tram oedd y wagen oedd yn cario manganis.

 

Though so scarce, the eggs and ham,

Yet the men can push the tram

Let us praise the Guinness Stout,

For the great production out..

~~~~~~~~~~~~~

Diolch i Mr Wil Williams,

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com