|
|
Cywydd I Enlli.
Bu’m ar daith, heb ammau’r dydd, Gwyllt-daith,ar hyd y gelltydd ; Taith oer a maith arw i mi, A serth dihoenais wrthi.
Myn’d yn fardd, os hardd yw son, Diried hyd Aberdaron, Hyd uchel dir Anelog, Uwch mynydd a’u creigydd crog ; Creigydd gerwin min y môr, Crochfaith oedd tonau crychfor ; Llithrigle, a llaith raglawr, Enbyd byw benyd bob awr, Nes gorfod (trollod y tro), Gwawdd awen, a gweddïo ; Gweddi rhag tori gwddwg, Poeni traed mewn penyd drwg ; Holi, ymofyn helynt Gyda phawb, a gaid hoff hynt, Meddynt, teg oeddynt eu gair, Llonfyd wrth furiau Llanfair, Rhodio y’mlaen, rhad ymlynu Yn yr anwar ddaear ddu, Nes cyraedd, mewn naws cywriant, Llanfair fro yn Llŷn, fawr fraint ; Gorphwysfa, noddfa, a nerth, Hoff rodahoyw a phrydferth.
Edrychais, synais enyd, Ar fin môr, oer fan y’ myd ; Gwelwn lun, nid un na dau, Hoen ddidawl o’m hen dadau ; Mynegaf iwch mewn agwedd, Di weniaith eu gwaith a’u gwedd.
Ar hynt, y gwrthddrych cyntaf, I chwi ei nodi a wnaf : Maen melyn, paun Llŷn, pen lles, Perydd hen – pwy rydd hanes Rhyw Faen, os adwaen ei swm, Teg auraidd y tau gwrwm ? Ei lys ef a welais i, Ar aelgerth tramawr weigi ; Mawr rwygiad y môr eigion, Gwŷn ffyrnig, a dig y dòn, Oedd o’i flaen hir raen, oer Och ! Anweddaidd oni wyddoch, Os yn ol y try olwg, A rhoi trem o’r rhuad drwg, Cynnyg holl wennyg y llu I gyd am ei godymu ; Calon sorth, cael yno sedd I ddiddig ystig eistedd, Neu ddyrchafiad, rhodiad rhydd, Ar drum a hir odremmydd.
Gwelwn Ynys, hysbys hon, Eur agwedd yn yr eigion ; Ynys Enlli. Bri, a braint, Os cofiwn hanes Cwfaint ; Ugain mil 0’r hîl wǎr hon A ffoisant, wyr hoffusion ; Madiain, o Borth y Meudwy, A don oer, rhai cloer rhag clwy’- O Fangor, adail fwyngu, Cain ïs coed, y cyn-weis cu ; Hwy ffoisant rhag chwant, rhwyg chwaith Tew falldod plant y felldith, Enllif deg, yn llef y dòn, Cael anadl rhag gelynion ; Heddwch ar fflwch orhoff lawr, A’u gorfu o’r rhwyg erfawr;
Buant fyw eu rhyw y’rhawg, Hynasant oll yn oesawg ; Y llu saint, eur-faint i’r fro, Doniawg a gladdwyd yno ; Y’mysg ereill, mwys gorwedd Merddin Wyllt, a myrdd un wedd, Llònir fydd, can’s llyma’r fan Y cydfod y Sant Cadfan ; Cadwallon (mwyn son mewn sedd, Gonest) ap Owain Gwynedd, Hywyn ap Gwynde hauach, Sy’n gorwedd mewn bedd main, bach; Deiniol Sant, neud anwyl sydd, Gyda’r llên, gydwyr llonydd : Rhyfaith i araith yru Eu hanes, iach les, wych lu ; Ond eu bod trwy glod, tra glwys, Llawn gwirffydd, oll yn gorphwys Gerllaw twrdd, a gorlli tòn, A mawr agwrdd môr eigion ; A’r Ynys hon, eirian sydd, Fal mynwent ar fol mynydd.
Draw, gwelwn, hwyliwn helynt, Er gloes, garn yr eglwys gynt, Tŵr uchel, arfel eurfaint, Cuf im’ son, er cof am saint ; Codesynt, meddynt, y mur, Nawdd werthiawg, yn nydd Arthur, Sef Arthur Fawr – y cawr cain, A bradwr brodir Brydain : Dyfrig arbenig ŵr du, Sĕl fwynaidd, i’w sylfaenu ; A Rhodri, nid yn rhydraws, Allai ‘n hir ei wella ‘n haws ; Abadty hardd mewn Bettws, Ar fin môr, ymogor mws ; Bu yn hwn yn buan hau Gwybodaeth deg Abadau. Ieuan Lleyn ~~~~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |