|
|
Galarnad, Ar yr Achlysur o Farwolaeth Chwech o Ddynion, Y rhai a Foddasant Yn Agos i Ynys Enlli, Ar y Dydd olaf o Dachwedd 1822. ~~~~~~~~~~~ Cwch Enlli Clywais waedd dros ddyfnfor heli, Trist-lawn gri o Enlli oedd ; Gwaedd uwch rhuad gwynt ysgeler A mawr flinder môr a’i floedd ; Gwaedd y gweddwon a’r ymddifaid, Torf o weiniaid—darfu oes Gwyr a thadau, yn y tonau— Llynnau—creigiau—llanw croes.
Y dydd olaf o fis Tachwedd, Oer ei wedd gan arw wynt, Un mil wyth gant a dwy ar hugain, Y bu sain wrth’nebus hynt ; Aeth Cwch esgud dan ei hwyliau, Cedyrn daelau, gorau gwaith, O Borth Meudwy tu ag Enlli, Hyd y lli’ rhuadwy llaith.
Yr oedd ugain o bersonau, A meddianau gorau gwaith, Yn y Cwch pan troisant allan Gyda’r lan, lle syfrdan serth Penyceil iddynt fu gysgodol, Orllewinol noddol nawdd ; Dehenol safn y Swnt cyrhaeddent, Heibio hwylient—ni bu hawdd.
Wele golau Haul a giliai, Lleuad godai, llwyd ei gwawr ; Gwynt o duedd y Gorllewin, Gofin ddryghin, erwin awr ; Y môr megys pair berwedig, Tra chwyddedig—trechai ddawn Y mor-ddynion. Pwy amgyffred Hyd a lled eu lludded llawn ?
Môr trochionllyd a therfysglyd, Cyhwfanllyd accw fu ; Tonnau cedyrn, dyrchafedig, Ffyrnig, ddymchweledig lu, Uwch ei ruad na tharanau, Neu sŵn gynnau maes y gwaed,-- Y fath dymestl cyth at Enlli, Ynys heini, na neshaed.
Daccw’r Cwch bron iawn yn noddfa, Diogelfa, cuddfa’r Cafn ; Daccw angau yn agoryd Ei gas, enbyd, wancus safn ; Ef ar dir a môr sy Gadben Hen—i ben y myn ei bwnc ; Iddo ef mae pawb yn gydradd, Baidd eu lladd—y bedd a’u llwnc.
Hyd rhaff angor prin oedd rhyngddo Fo a lanio yn ei le, Pan mewn cymysg derfysg dirfawr T’rawodd lawr ar graig fawr gre’ ; Ei ochr ddrylliwyd gan y dyrnod, Erchyll drallod, archoll drist ; Dyled pawb yw gwylio beunydd— O! mor ddedwydd crefydd Crist.
Pa ham, awel, y cynhyrfi ? Ti os plygi y Supply, A dinystrio Llong mor fechan, Llid a thuchan—gogan gei ; Tafl y creigiau i’r rhyferthwy, Gwasgar hwy, ruadwy wynt ; Byth i’r Llongau’n gynorthwyol, Cai dy ganmol, haeddol hynt.
Gweision ydyw’r gwynt a’r tonau, Yn cwblhau yn ddiau ddeddf Ac ewyllys eu Creawdwr, Swn ei gryfdwr sy’n eu greddf ; Pan ddywedo, "Byddwch wrol," Yn ol ei nerthol air hwy wnant, Os rhaid gyda pheri adfyd Foddi hefyd, ufuddhant.
Sugnwyd chwech i safn marwolaeth, A Rhagluniaeth yn rhoi glan I bedwar dyn ar ddeg o honynt— Da fu’r helynt, Duw fo’u rhan. Yn ol eu dawn i feibion dynion, Mae’r fath droion, chwerwon chwith, Yn arddangos yn dra golau Y daw angau ymhob rhith.
Thomas Williams y Llong-lywydd, Heddyw sydd a dydd ei daith, Hyd ei yrfa wedi darfod, Ar y gwaelod oera gwaith ; A’i ferch Sidney, yr un ffunud, Yr un mynyd i’r un man,-- Hyll i hon oedd golli ’i heinioes, Garw loes, wrth gwrr y lan.
Pe rhyw les fuasai dyfais, Anian, ymgais dyn a’i nerth, Ni threngasai Ellis Gruffudd Yn y cystudd tonog certh ; Na Dafydd Thomas, o Bant Fali, Yn yr heli anwar hallt. Taflai’r môr rai llai eu hawgrym, Yn nydd ei rym i nawdd yr allt.
Cyrph y pedwar uchod cafwyd, A derbyniwyd gan dy’r bedd ; Tu a hwn mae pawb a’u trafael, O! mor wael yw marw wedd. Mae Tŷ, er dattod y daearol, Etto’n ol gan ddwyfol ddawn I’r cyfiawnion—cant o’r beddrod, Ddydd i dd’od, ollyngdod llawn.
Ond John Jones, a William Williams, Enawau dinam, sy’n y don, Am hyn mae chwanegol gystudd, Och llwyr brudd llawer bron ; Yno’u hesgyrn a gasgerir— Casglir, dygir hwy bob darn, Pan cano’r udgorn uwch yr eigion, Codwch feirwon—dewch i farn.
Tad trugarog, llawn addfwynder, Dy wir dyner arfer yw Llwyr fendithio dyrys droion, Er rhybuddion i’r rhai byw ; Gwna i’r gweddill a adawyd Fyw yn d’arswyd a’th ofn dwys, A Gair dwyfol boed eu rheol, Gydwybodol yn gyd bwys.
Cafodd gweddwon genyt ddigon O’th fendithion, rhoddion rhâd, Ti i’r gwâr ymddifaid gwirion Fuost ffyddlon dirion Dad ; Boed i’r un drugaredd etto Fuan wawrio, addfwyn wedd, Gweddwon ac ymddifaid Enlli Gaffo’i phrofi hi a’i bedd.
Drwy’r holl Ynys treiddied sobrwydd, I’th Air llwydd a rhydd fawrhad ; Tyn ei phobl i’r wir ymgeledd, O fewn hedd y cyfiawnhad. Boed eu gweddi hwy bob enyd, Pan ar hyd terfysglyd fôr,-- "Arglwydd, ar y gwynt a’r tonau Cau dy ddyrnau, cadw ddòr."
Tro galonau Gwyr y Llongau, Trwy holl barthau banau byd, I gydnabod ac i gredu Mai ti sy’n meddu’r gallu i gyd ; Dangos iddynt nad oes noddfa, Diogelfa, ond y Gŵr A wyr rif y ser a’n henwau, Rhif a phwysau’r dafnau dwr. Ieuan Lleyn. ~~~~~~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |