Can y Butcher

Hen gariwrs lon newydd a glywsoch chwi son,

Am sgarmes y butcher wrth fynd hyd y lon.

Nid wiw imi waeddi na llefain yn groch,

Rhag digio Talafon ac Ifan Plas Coch.

 

Yfasant or cwrrw a’r gwirod yn hy,

Wrth fynd yn y bore yn nhafarn Ty Du.

Ond wrth ddyfod adre caed dogn rhy fawr,

Nes aeth car y butcher a’i wyneb i lawr.

 

Y cerbyd a’r harnes aeth allan o drefn,

A’r gost yw anhraethol i’w dalu drachefn.

Mae Mrs yn gaddo hi’n erwin o hallt,

Os byth ceith hi afael a’r Ifan Penrallt.

Bydd croen ei fochau’n gripiadau i gyd

Am fedwwi efo’r butcher yn nhafarn Y Rhyd!!!!

~~~~~~~

Diolch yn fawr i Mr E Morris am y gan yma.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com