|
|
Can i gor Rhiw (oddeutu 1914) Mae yma gor o fawrion yn y plwyfi hyn yn wir, Os nad y nhw ran hynny iw mawrion yr holl sir Mae Nico bach Bryn goleu yn canu’n swynol iawn, A Madam Patti hithau yn canu trwy’r prydnawn.
A Whiteross annwyl hefyd, a Florence nighting Gale Ond nid yw Guto Butcher yn cael dim gwerth o sel. Mae yma fwl y daran yn cordio yn y Bass, A’r pryfyn bwlyb yn chwythu ac weithion braidd yn gas.
Mae Gin Gin ynddo hefyd yn canu’n gryno iawn, A Johnny Penny Reading yn dangos ei fawr ddawn, Mae Stalwyn y gymdeithas a’i lais fel taran groch A Jack y nico bengoch a Hugh o Abersoch.
Mae yno fassar arall mae ganddo lais yn stor, A’i enw rwyf yn meddwl yw Eos Mawr y Mor. Mae yno un soptano o’r Garth neu Trip y Rhiw Mae’n canu, ac yn caru bob nail ond dyw hi’n driw.
Mae driw bach yn y canol yn selog ac yn driw A’r Lordes fawr yn fwy na neb o’r Rhiw, A hithau y gornchwiglen yn cornio hyd y llawr, A Lowri Sian Pencaerau dyw hi yn canu fawr.
Mae canu bob nail noson a hynnu’n gyson iawn Maen’t dechrau hwylio yno, yn gynnar y prydnawn, A’r lle y cyrchir iddo yw cwt hen Nico Lleyn Mae swn ei lais yn hornio bron syfrdannu dyn.
I Eisteddfod fawr Rhosirwaun yr ant i gyd rhyw awr, Wel tendiwch gael eich curo y chwi y Bobol Fawr, Peth cas fuasa clywed ym mro ac ardal Rhiw, Fod Nico wedi colli y gwpan hefo’i griw!!!!! ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris am y gan yma. |
|
Copyright © Rhiw.com |